Croeso i wefan Adran Ffynnonddrain!
Dewch i ymuno gyda ni, a chael hwyl wrth gymdeithasu a chystadlu yn y Gymraeg. Mae croeso mawr i blant sy'n aelodau o'r Urdd i gymryd rhan yn ein gweithgareddau.
Cliciwch ar y botwm isod i weld ein sianel YouTube:
Mae aelodau Adran Ffynnonddrain wrth eu boddau yn cymdeithasu â phlant eraill o ysgolion ardal Gorllewin Myrddin.
Mae’r Adran yn cystadlu’n frwd yn Eisteddfod yr Urdd, ac wedi cael cryn dipyn o lwyddiant… a lot fawr o hwyl hefyd!
Mae meithrin teimlad o falchder yn ein cynefin yn bwysig iawn i ni. Wrth graidd popeth mae’r iaith Gymraeg, Cymru, Sir Gâr, a’n cornel bach arbennig ni yma yng Ngorllewin Myrddi
Arweinydd Adran Ffynnonddrain
Mae Lleucu wedi bod wrth y llyw ers blynyddoedd! Mae’n gweithio yn Ysgol Gymraeg Rhydaman, ac yn dwlu ar y celfyddydau Cymraeg.
Athrawes yn Ysgol Gymunedol Peniel yw Catrin, sydd â diddordeb mawr mewn llefaru a sgriptio.
Mae Nia Ann wedi gweithio fel perfformwraig broffesiynol ers dros 15 mlynedd yng Nghymru a thramor, gyda phrofiad helaeth o weithio gyda phlant a chanolfan Peniarth. Mae’n mwynhau hyfforddi plant yr adran i berfformio a datblygu eu hyder.
Mae Meredudd yn gyn-athro Cerddoriaeth sydd bellach yn gweithio i dîm addysg Adobe. Bydd yn paratoi’r plant ar gyfer cystadlaethau cerddorol yr Eisteddfod, ynghyd â chyfleoedd eraill i berfformio yn lleol.